Dewch i ymweld â Neuadd y Farchnad Aberystwyth sydd newydd ei hadnewyddu a dewch i gwrdd â’r masnachwyr am brofiad siopa traddodiadol. Edrychwch ar y stondinau am drysorau cudd a nwyddau unigryw i’w prynu, pethau na welwch yn siopau’r stryd fawr. Wedi ei lleoli ar ben ucha’r Stryd Fawr ar y ffordd i gastell enwog Aberystwyth, mae Neuadd y Farchnad yn un o gyfrinachau gorau’r dref.
Dewch i gwrdd â’n masnachwyr >
Mae pedwar ar ddeg o stondinwyr yn gwerthu nwyddau yn Neuadd y Farchnad gan gynnig amrywiaeth eang o nwyddau gan gynnwys: hen bethau, binocwlars, llyfrau, dillad, cyfrifiaduron, hynodion, offer pysgota, blodau, anrhegion, cacennau cartref, nwyddau dwyreiniol, fframio lluniau, carped a llenni, teganau, recordiau vinyl a llawer mwy.
Neu galwch i mewn am baned yn y caffi.
Mae rhywbeth i bawb yn yr ogof Aladdin hwn.
Tu allan y Neuadd mae pedair uned deor newydd ar gyfer pobl sydd am ddechrau busnesau newydd – dewch i gefnogi eich entrepreneurs lleol.