Mae pedwar ar ddeg o stondinwyr yn gwerthu nwyddau yn Neuadd y Farchnad gan gynnig amrywiaeth eang o nwyddau gan gynnwys: hen bethau, binocwlars, llyfrau, dillad, cyfrifiaduron, hynodion, offer pysgota, blodau, anrhegion, cacennau cartref, nwyddau dwyreiniol, fframio lluniau, carped a llenni, teganau, recordiau vinyl a llawer mwy.
Ers cyn cof cynhelid marchnad agored o gwmpas hen Neuadd y Dref a safai lle saif Cloc y Dref heddiw. Ym 1823 yng Nghwrt Lît y Pasg, gerbron y Maer Job Sheldon, rhoes y Rheithgor i Morris Davies, Thomas Williams, James Morice, Rice Jones, John Sheldon a John Lewis, pob un o Dref Aberystwyth...