Hanes Neuadd Y Farchnad Aberystwyth

HistoryImage.jpg


aberystwyth-market-hall-1.jpgAgorwyd Neuadd y Farchnad Aberystwyth ar ei newydd wedd ar 24 Mehefin gan Weinidog dros Adfywio a Thai Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant AC.

Ers cyn cof cynhelid marchnad agored o gwmpas hen Neuadd y Dref a safai lle saif Cloc y Dref heddiw. Ym 1823 yng Nghwrt Lît y Pasg, gerbron y Maer Job Sheldon, rhoes y Rheithgor i Morris Davies, Thomas Williams, James Morice, Rice Jones, John Sheldon a John Lewis, pob un o Dref Aberystwyth, lain o dir ym Maes Iago ar gyfer cynnal marchnad er hwylustod i’r dref a’r cyhoedd, gan gadw iddynt eu hunain pob taliad stondin a llafurwaith arall fel bo’n rhesymol am bedair ar bymtheg a phedwar ugain o flynyddoedd, gan dalu swm o ddwy bunt y flwyddyn a chan adael y briffordd o’i hamgylch fel bo angen.

aberystwyth-market-hall-2.jpgDywed W.J.Lewis yn Born on a Perilous Rock (t.134) ‘Cynhelid y marchnadoedd da byw yn yr awyr agored a hyd at ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd digon o le iddynt ar diroedd comin y dref. Cynhelid marchnad y moch ar dir agored lle saif Stryd y Frenhines a’r Lôn Gefn heddiw. Heol y Moch oedd yr hen enw ar Stryd y Frenhines. Fodd bynnag, erbyn 1762 yr oedd tai wedi eu codi yn Barker’s Lane, fel y gelwid Stryd y Frenhines y pryd hynny, a bu cwyn yn y Cwrt Lît bod marchnad y moch yn niwsans. Gorchmynwyd ei symud i le mwy helaeth, sef Maes Iago. Yno gwerthai ffermwyr ac eraill eu moch ar droliau a oedd wedi eu gosod o amgylch y tu allan i’r Farchnad Gig. Ymhen amser yr oedd y troliau wedi gorlifo i’r Stryd Uchel ond rhoddwyd terfyn ar hynny pan godwyd tai yno.’

Ar ôl i’r farchnad gig ddod i ben, rhannwyd yr adeilad yn ddwy a defnyddid y rhan ‘gefn’ fel man dosbarthu gan gyfanwerthwr ffrwythau a llysiau a’r ffrynt fel y defnydd presennol. 

aberystwyth-market-hall-3.jpg

Fe wnaeth yr hen Gyngor Dosbarth rai gwelliannau i’r rhan flaen ganol y 1970au ac ar ol i’r cyfanwerthwr ffrwythau a llysiau roi’r gorau iddi, yr oedd yr adeilad yn un unwaith eto a’r rhan gefn yn ofod anffurfiol.

Gwrdd â’n Masnachwyr 

Mae pedwar ar ddeg o stondinwyr yn gwerthu nwyddau yn Neuadd y Farchnad gan gynnig amrywiaeth eang o nwyddau gan gynnwys: hen bethau, binocwlars, llyfrau, dillad, cyfrifiaduron, hynodion, offer pysgota, blodau, anrhegion, cacennau cartref, nwyddau dwyreiniol, fframio lluniau, carped a llenni, teganau, recordiau vinyl a llawer mwy.

Gwrdd â’n masnachwyr >

Newyddion

LaunchDay_224x134px.jpg

Gwobr I Neuadd Marchnad Aberystwyth

Mae prosiect Cyngor Sir Ceredigion wedi ennill categori Busnes a'r Economi ar gyfer Rhanbarth Cymru yng Ngwobrau Towns Alive 2013. Datblygwyd prosiect Neuadd Marchnad Aberystwyth mewn partneriaeth â stondinwyr y Farchnad...

Darllenwch fwy

Unedau Cychwyn

Gweld rhestr o’r mentrwyr yn yr unedau cychwyn

Ffeindiwch ni

Rydyn ni yn:

Upper Great Darkgate St,
Aberystwyth,
SY23 1DW

Golwg fanylach ar y map

f_logo.jpg